Cynhaliwyd y Sesiwn Fawr gyntaf yn ôl ym 1992. Syniad
criw o gerddorion lleol, aelodau’r band Gwerinos a’u
ffrindiau a hoffai’r ‘craic’ traddodiadol,
ydoedd yn wreiddiol. Roedd teimlad fod angen rhyw ddigwyddiad
yn y dref, ac fe gofiai rhai o’r criw am hwyl Gwyl Werin
Geltaidd a gynhaliwyd yn y dref ar ddechrau’r 80au. Aed
ati gyda brwdfrydedd i drefnu gwyl, a llwyfanwyd y Sesiwn gyntaf
honno yn eitha’ di-ffwdan! Cychwynwyd ar raddfa fechan
ond yn fuan dechreuodd ddal yn nychymyg y gynulleidfa, a thyfodd.
O, do, mi dyfodd!
Cynhaliwyd y Sesiwn Fawr am un mlynedd ar ddeg ar sgwâr
hynafol Dolgellau fel gwyl rad ac am ddim i’r cyhoedd,
a thrwy hynny wireddu’r ddelfryd o fynd â’r
gerddoriaeth at y bobl. Cychwynnodd yr arlwy yn Gymreig ac
yn Geltaidd ei naws ac, yn fuan, gwelwyd grwpiau ac unigolion
o bellafoedd byd yn dod i Ddolgellau, gan rannu rhan o’u
traddodiadau efo ni yng Nghymru. Roedd y Sesiwn yn llwyddiant,
ond efo’r llwyddiant daeth rhai problemau, ac ymhen amser
gwelwyd nad oedd ‘y sgwâr ddim digon mawr i’n
hogia’ ni.’
Yn 2002 penderfynwyd symud o’r sgwâr ac adleoli
ar faes parcio’r Marian gerllaw. Daeth yr wyl yn un lle
codwyd tâl mynediad am y tro cyntaf, ac mae bellach yn
denu tyrfa o 5000 yn flynyddol i fwynhau’r arlwy gerddorol
amrywiol. Darlledwyd y Sesiwn Fawr ar Radio Cymru am y tro
cyntaf ym 1995, ac ers 1997 fe’u teledwyd ar S4C. Bellach
darlledir rhannau o’r Sesiwn yn fyw ar S4C.
Mae rhestr y bandiau a ymddangosodd yn y Sesiwn yn anhygoel.
Gellir cynnwys y Super Furry Animals, Cerys Matthews,
Burning Spear, The Alarm, The Levellers, Capercaillie, Oysterband,
Susheela Raman, Dick Gaughan The Saw Doctors, Mozaik, Sharon
Shannon, Karine Polwart, Brendan Power a Shooglenifty. Wrth
gwrs mae’r rhestr o’r grwpiau Cymraeig i ymddangos
yn y Sesiwn yn anferthol ac mae’n cynnwys Anweledig,
Meic Stevens, Bryn Fôn a Sobin!, Bob Delyn a’r
Ebillion, Gwerinos, Frizbee, Ar Log, Meinir Gwilym, a’r
Moniars.
Cynhelir y Sesiwn yn flynyddol ar un o leoliadau hyfrytaf
Eryri; ar lan yr Afon Wnion wrth odre Cader
Idris, gyda chadernid
gwenithfaen adeiladau hynafol y dre’n gefndir gwrthgyferbyniol
i liw a bwrlwm yr wyl.
Oeddech chi yno? Oes gennych chi stori am ymweliad â’r
Sesiwn Fawr? ‘Dan ni’n awyddus i gyhoeddi eich
hanesion yn yr adran hon o’r wefan. Gyrrwch unrhyw stori
i myfyr@sesiwnfawr.com
Posteri!
1992
1993
1994
1995
1996
1997
1998
1999
2000
2001
2002
2003
2004
2005
2006
2007
2008
Sesiwn Fawr Dolgellau Cyf. 08712 301314
Swyddfa'r Wyl, Penbryn, Dolgellau, Gwynedd
LL36 9SG