Cymraeg |
English
Ble i aros
Mae digonedd o le parcio ac adnoddau
gwersylla o fewn y dref gan gynnwys maes pebyll swyddogol yr
wyl sydd yn agos i'r maes.
Os nad yw noson dan ganfas yn apelio i chi yna mae gwestyau,
hostelau a digonedd o dai yn cynnig gwely a brecwast yn yr
ardal. Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Ymwelwyr ar 01341
422888 am fwy o wybodaeth.
I'w fwyta a'i yfed
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau
yn ymfalchïo nid yn unig mewn
denu y gerddoriaeth orau o ben draw'r byd ond hefyd amrywiaeth
helaeth o fwydydd y byd o fewn y maes. Bwydydd yn cynnwys cig,
neu llysieuol, safori neu speis.
Bydd bariau ar y maes yn ogystal yn gwerthu'r cwrw gorau o'r
gasgen neu diodydd ysgafn.
Marchnad grefftau
Mae marchnad grefftau'r Sesiwn Fawr yn prysur dyfu i fod yn
un o farchnadoedd mwyaf y gogledd. Crefftau, offerynnau, dillad
. . . pob math o stondin.

Sesiwn y Plant
Cofiwch am Bentre'r Plant yn y Sesiwn, digon i'w cadw'n ddifyr
trwy'r dydd, theatr, pypedau, storiau, ffair.

Digwyddiadau Pentref Plant
Yn ôl yr arfer bydd llod trol o ddigwyddiadau i ddiddori’r
plat yn y Sesiwn Fawr eleni.
Cliciwch yma i lawrlwytho manylion y Pentref Plant >>

Mynediad i'r Anabl
Mae gennym bolisi i geisio
gwneud y Sesiwn Fawr yn gyfleus i'r anabl. Am fwy o wybodaeth
cysylltwch â'r Swyddfa
ar 08712301314
Hanes y Sesiwn
Cliciwch i ddarganfod ychydig am hanes y sesiwn |